Croeso

Diweddarwyd ddiwethaf 11 Awst 2003

OpenOffice.org 1.1 Darllen Fi

Am y Darllen Fi diweddaraf, ewch iwww.openoffice.org/welcome/readme.html

Annwyl Ddefnyddiwr

Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch y rhaglen hon. Darllennwch y wybodaeth yn ofalus iawn cyn cychwyn gweithio.

Hoffai cymuned OpenOffice.org, sy'n gyfrifol am ddatblygiad y cynnyrch hwn. eich gwahodd i gymryd rhan fel aelod cymuunedol. Fel defnyddiwr newydd, ewch i safle OpenOffice.org am wybodaeth defnyddiwr defnyddiol ynwww.openoffice.org/about_us/introduction.html Hefyd darllenwch yr adran isod am ymuno â phroject OpenOffice.org.

Nodiadau Gosod

Anghenion y System:

Nodyn:Byddwch yn ymwybodol fod angen hawliau gweinyddu ar gyfer y broses osod.
Nodyn i ddefnyddwyr Windows 98 yn unig: Os fyddwch yn dewis gosod Java yn ystod rhaglen osod OpenOffice.org, bydd y gosodwr yn gofyn i chi ailgychwyn eich cyfrifiadur. Dylech un ai anwybyddu'r neges neu agor rhaglen osod OpenOffice.org ar ôl ailgychwyn.

Mae anawsterau cychwyn OpenOffice.org (e.e. rhaglen yn sefyll) yn ogystal â phroblemau gyda'r dangosydd yn aml yn cael eu hachosi gan yrrwr y cerdyn graffigol. Os yw'r anhawsterau hyn yn digwydd, diweddarwch yrrwr eich cerdyn graffig neu ddefnyddiwch y gyrrwr ddaw gyda'ch system weithredu. Mae modd datrys anhawsterau dangos gwrthrychau 3D drwy anablu dewis "Defnyddiwch OpenGL" o dan 'Offer - Dewis - Golwg - Golwg 3D'.

Mae modd gosod OpenOffice.org 1.1 ochr yn ochr â'r fersiwn hyn o OpenOffice.org. Os fyddwch yn penderfynu dadosod y fersiwn hyn yn ddiweddarach, rhaid i chi alw rhaglen osod y fersiwn diweddaraf a dewis 'Trwsio'. Bydd hyn yn sicrhau fod y fersiwn newydd wedi ei gofrestri'n iawn ar eich system.
Sylwch na fydd copïo a gludo drwy'r clipfwrdd yn gweithio yn fformat OpenOffice.org rhwng OpenOffice.org 1.0 ac OpenOffice 1.1. Os yw hynny'n digwydd,dewiswch 'Golygu - Gludo Arbennig' a dewis fformat arwahân i OpenOffice.org neu agor y ddogfen yn OpenOffice 1.1 yn uniongyrchol.

Gwnewch yn siwr od gennych ddigon o gof rhydd yng nghyfeiriadur dros dro eich system a bod hawliau darllen, ysgrifennu a rhedeg wedi eu rhoi. Caewch bob rhaglen arall cyn cychwyn gosod.

Gosod Rhwydwaith: Gwall wrth Alw Cychwyn Cyflym OpenOffice.org

Os, wrth gychwyn y system, mae anhawster yn digwydd wrth alw Cychwyn Cyflyn OpenOffice.org (e.e. cyswllt annilys) mae hyn fel rheol, oherwydd nad yw'r gyrrwr rhwydwaith y mae'r gosodiad rhwydwaith wedi ei osod arno ar gael neu ddim ar gael eto.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn digwydd pan fydd y gyrwyr rhwydwaith wedi eu mewngofnodi drwy sgript mewngofnodi, gan sefydlu cyswllt â'r gyrrwyr rhwydwaith paralel i redeg rhaglenni grwp awtogychwyn o le mae'r Cychwyn Cyflym yn cael ei gychwyn hefyd.

I osgoi'r broblem, dylai'r gyrwyr rhwydwaith gael ei gysylltu drwy gwasanaethau'r system. Os nad yw hyn yn bosibl, mae modd datod y cyswllt sy;n cael ei ddefnyddio i alw Cychwyn Cyflym o grwp awto gychwyn y system, neu mae modd anablu'r Cychwyn Cyflym wrth osod y gosodiad man gwaith. Os yw'r gweinyddwr system wedi anablu'r Cychwyn Cyflym wrth osod y gosodiad rhwydwaith, nid oes modd dewis Cychwyn Cyflym gan y defnyddiwr mewn gosodiad man gwaith diweddarach.

Nodiadau Mynediad Pwysig

Oherwydd anaswterau o fewn y Java(TM) Access Bridge, rhaoid gosod local y system weithredu i "English (United States)" neu "(EN-us)". Dim ond ar y gosodiadau hyn mae modd gweithio gyda rhaglenni fel ZoomText. (Sylwch: Nid yw'r rhaglen WindowEyes yn gweithio gyda OpenOffice.org am nad yw'n cynnal API Java Accessibility.Nid yw'r Java(TM) Access Bridge sydd wedi ei osod gyda'r fersiwn mynediad cynnar hwn yn gweithio'n iawn gyda rhaglenni Java arferol.

Ai Squared ZoomText 7.11

Os hoffech ddefnyddio Ai Squared ZoomText gydag OpenOffice.org 1.1 , rhaid cael fersiwn 7.11 neu uwch. Rhaid i ddyddiad llwytho Ai Squared ZoomText i lawr fod ar ôl Mehefin 12, 2002 iddo gynnwys y gwelliannau angenrheidiol.

Newid Ffont Rhyngwyneb y Defnyddiwr

Yn OpenOffice.org mae modd newid y ffont'syn'n cael eu ddefnyddio ar gyfer arddangos sgrin ac argraffu drwy ei newid gyda ffont gwahanol i'r hyn sydd ar eich system. Mae modd gwneud hyn drwy ddefnyddio'r dull newid ffont. Dewiswch Offer - Dewisiadau - OpenOffice.org - Amnewid Ffontiau i gael mynediad ato.

I newid ffont rhyngwyneb defnyddiwr OpenOffice.org, rhaid amnewid y ffont rhagosodedig "Andale Sans UI" gyda ffont arall a marcio'r gosodiad "bob tro" ar gyfer y newid hwn.

Cyfeiriwch at Gymorth OpenOffice.org am esboniad manwl o'r deialog.

Allweddi Llwybr Byr

Dim ond bysellau (cyfuniad bysellau) nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y system weithredu mae modd eu defnyddio yn OpenOffice.org. Os nad yw cyfuniad bysellau'n gweithio fel y disgrifir yn Cymorth OpenOffice.org, gwiriwch fod y llwybr byr yn cael ei ddefnyddio eisoes gan y system. I gywiro'r gwrthdaro, mae modd newid y bysellau neilltuwyd gan eich system weithredu. Fel arall, mae modd newid bron unrhyw un o fysellau neulltuwyd gan OpenOffice.org. Am ragor o wybodaeth ar y pwnc, ewch i Cymorth OpenOffice neu ddogfennaeth Cymorth eich system weithredu.

Anawsterau wrth Anfon Dogfennau fel E-byst o OpenOffice.org

Wrth anfon dogfen drwy 'Ffeil -Anfon - Dogfen fel E-bost' neu Dogfen fel Atodiad PDF' gall anawsterau ddigwydd (rhaglen yn atal). Mae hyn oherwydd ffeil system Windows "Mapi" (Messaging Application Programming Interface) sy'n achosi anhawsterau mewn rhai fersiynau o'r ffeil. Am ragor o wybodaeth ewch i: http://www.microsoft.com i chwilio'r Microsoft Knowledge Base am "mapi dll".

Defnyddio Info-ZIP

Mae OpenOffice.org yn defnyddio Info-ZIP i greu a dadbacio gosodiad OpenOffice.org, yn ogystal ag i bacio a dadbacio fformat ffeil XML OpenOffice.org. Mae (ZIP, UnZip a rhaglenni eraill) ar gael am ddim ac mae modd eu defnyddio yn y cod ffynhonnell ac fel rhaglen weithredol. Mae modd eu cael drwy safleoedd Anonymous FTP megis ftp.uu.net:/pub/archiving/zip/*.

Cod Ffynhonnell Defnyddwyr / Addaswyd

Darnau Hawlfraint 1998, 1999 James Clark. Darnau Hawlfraint 1996, 1998 Netscape Communications Corporation.

Ymuno

Byddai Cymuned OpenOffice.org yn elwa'n fawr o'ch ymwneud gweithredol yn natblygiad y project cod agored pwysig hwn.

Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn ran gwerthfawr o broses datblygu'r casgliad a byddwn yn hoffi eich hannog i gymryd rhan mwy gweithredol gyda golwg ar fod yn gyfrannwr tymor hir i'r Gymuned. Ymunwch ac ewch i dudalen y defnyddiwr yn:www.openoffice.org

Cofrestru

Cymrwch ychydig o amser i lanw'r broses Cofrestri Cynnyrch byr wrth i chi osod y feddalwedd. Er bod cofrestri'n ddewisol, rydym yn eich annog i gofrestru gan fod y wybodaeth yn galluogi'r Gymuned i greu meddalwedd gwell ac ateb anghenion y defnyddiwr yn uniongyrchol. Drwy ein Polisi Preifatrwydd,mae Cymuned OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat Os aethoch heibio i'r cofrestu wrth osod y feddalwedd, mae modd dychwelyd a chofrestru ar unrhyw adeg..www.openoffice.org/welcome/registration-site.html

Arolwg Defnyddiwr

Mae yna hefyd Arolwg Defnyddiwr ar-lein hoffwn eich hannog i'w lanw. Mae canlyniadau'r Arolwg Defnyddiwr yn cynorthwyo OpenOffice.org i symud ynghynt wrth osod safonau newydd ar gyfer creu'r cenhedlaeth nesaf o rhaglenni swyddfa. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat.

Adrodd Gwallau a Materion

Mae Safle Gwe OpenOffice.org yn cynnal IssueZilla, sef modd i gofnodi, tracio a datrys gwallau a materion o bryder. Rydym yn annog pob defnyddiwr i deimlo croeso i adrodd ar wallau all godi ym mhob platfform.Mae adrodd effeithiol ar wallau'n un o gyfraniadau pwysicaf y gall y Gymuned Defnyddwyr ei wneud i ddatblygiad a gwellhad y rhaglenni.

Tanysgrifio

Dyma rhai o restrau e-bostio'r Project gallwch danysgrifio iddynt ynwww.openoffice.org/mail_list.html

Ymuno ag un neu fwy o'r Projectau

Mae modd i chi wneud cyfraniad sylweddol i'r project cod agored pwysig hwn hyd yn oed os mai dim ond profiad bychan o gynllunio meddalwedd neu godio sydd gennych. Ie, chi!

Cewch ddod o hyd i brojectau yn ymestyn o Leoleiddio, Portio a Grwpwar i brojectau codio sylfaenol iawn. Os nad ydych yn ddatblygwr, ewch at y Project Dogfennaeth neu Farchnata. Mae'r Project Marchnata OpenOffice,org yn defnyddio dulliau guerilla a thechnegau marchnata traddodiadol i farchnata cynnyrch cod agored, ac rydym yn ei wneud ar draws ffiniau ieithoedd a diwylliannau, felly gallwch helpu drwy son am y gwaith a dweud wrth eich ffrindiau am y rhaglen.

Gallwch helpu drwy ymuno a'r Rhwydwaith Marchnata Cyfathrebu a Gwybodaeth yma:http://marketing.openoffice.org/contacts.html lle gallwch gynnig pwynt cyfathrebu gyda'r wasg, cyfryngau, asiantaethau'r llywodraeth, ymgynghorwyr, ysgolion, Grwpiau Defnyddwyr Linux a datblygwyr yn eich gwlad a'ch cymuned leol.

Cefnogaeth i Ddefnyddwyr

Am gymorth gyda rhaglen swyddfa OpenOffice.org 1.1, edrychwch ar yr archifau o gwestiynau sydd wedi eu hateb ar restr e-bostio: 'users@openoffice.org' www.openoffice.org/mail_list.html. Neu mae modd anfon eich cwestiynau at users@openoffice.org. Cofiwch danysgrifio i'r rhestr i gael ymateb drwy'r e-bost.

Hefyd ewch at ein adran FAQ, sydd i'w gael ar ochr chwith bar llywio safle OpenOffice.org. Mae cwestiynnau cyffredin yn cael eu gosod yma.

Sut i Gychwyn

Y ffordd orau i gyfrannu yw drwy tanysgrifio i un neu fwy o'r rhestr e-bostio am gyfnod, ac yn raddol ddefnyddio'r archifau e-bost i ddod i adnabod yr amryw o destunau sydd wedi eu trin ers i god ffynhonnell OpenOffice.org gael ei ryddhau nôl yn Hydref 2000. Pan rydych yn barod, dim ond anfodn e-bost o gyflwyniad ac ymuno! Os ydych yn gyfarwydd â Phrojectau Cod Agored, ewch i'n rhestrau To-do a gweld os oes yna rhywbeth hoffech chi gynnig helpu gydag ef.www.openoffice.org/dev_docs/todos.html.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweithio gyda'r OpenOffice 1.1 newydd ac y gwnewch ymuno ar-lein â ni.

Cymuned OpenOffice.org